ACTifyddWCH

Offeryn hyfforddiant i sbarduno llesiant Cymru

Rydych chi’n un o rwydwaith o hyfforddwyr sy’n tyfu ledled Cymru sydd wedi dewis gwneud rhywbeth rhyfeddol: gwireddu’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eich sefydliad.

Beth yw Actifyddwch?

Mae system Actifyddwch yn becyn o gardiau ‘ysbrydoli’ a luniwyd i’ch helpu i greu llwybr hyfforddiant sy’n gweddu orau i anghenion eich sefydliad.

Mae’r cardiau wedi’u rhannu’n bedwar categori.  Mae pob un yn gam allweddol o lunio, cyflwyno a gwerthuso hyfforddiant.

Gosod y cyd-destun
Ysbrydoliaeth ar gyfer pryd a ble i gynnal eich hyfforddiant.

Paratoi ar gyfer newid
Ffyrdd o baratoi hyfforddiant sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion chi a/neu anghenion eich sefydliad.

Sbarduno gweithredu
Cefnogi’r cam ‘gwneud’ trwy awgrymu technegau a dulliau sy’n ymwneud â phob agwedd o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cynnal effaith
Dulliau ar gyfer cadw dysgu’n fyw trwy weithredu hirdymor.

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar ei mwyaf gweddnewidiol pan fydd yn rhan o benderfyniadau pob dydd.

Mae’r hyfforddiant mwyaf effeithiol wedi’i wreiddio yng ngwaith pob dydd eich sefydliad.  Wrth i chi archwilio Actifyddwch, fe’ch anogwn i feddwl am yr hyn y mae angen i’ch cydweithwyr ei wybod a hefyd beth mae hynny’n ei olygu i’w gwaith yn ymarferol, gan gynnwys sut maen nhw’n teimlo, yn meddwl ac yn gweithredu bob dydd

Ble fydd eich taith Act-ifyddwch yn dechrau?

Dewiswch o blith y tri opsiwn isod:-

Ein Actifyddwch

Rydym yn gweithio gyda chymuned act-ivate i ddatblygu llwybrau hyfforddi ar gyfer canlyniadau wedi’u diffinio ymlaen llaw. Bydd y llwybrau, ar ôl eu datblygu, yn cael eu huwchlwytho yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at y gwaith hwn, neu ymuno â rhwydwaith act-ifyddwch, gallwch gofrestru eich diddordeb yma.

Fy Actifyddwch

Defnyddiwch yr offeryn didoli i greu eich llwybr Actifyddwch eich hun yn unol â’ch cynlluniau hyfforddi, eich tîm a blaenoriaethau eich sefydliad.

Actifyddwch y cyfan

Lawrlwythwch y pecyn llawn o gardiau Act-ifyddwch yma neu gweler pob pecyn cardiau ar wahân.


I adeiladu’r offeryn hwn, rydym wedi gweithio gyda chyrff cyhoeddus ledled Cymru. Mae’r gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo, a bydd yr offeryn yn esblygu wrth i ni barhau i dderbyn adborth gan ein tîm cynyddol o brofwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â rhwydwaith Act-ivate a chyfrannu at y profion parhaus, cofrestrwch yma. Yn y cyfamser cliciwch yma i ddysgu mwy am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r offeryn.

Mae’r offeryn hwn wedi’i anelu at weithgareddau ymarferol gan weithio gyda phobl i gefnogi eu dysgu trwy weithredu. Er mwyn sicrhau bod yr offeryn ei hun yn cyflawni datblygiad cynaliadwy, fe’ch cynghorir yn gryf i ddatblygu pecyn cymorth hwyluso cynaliadwy. Mae’r pecyn cymorth hwn yr un mor am eich agwedd ag y mae am y deunyddiau rydych chi’n eu defnyddio yn eich sesiynau. I archwilio hyn ymhellach, dilynwch y ddolen i’r pecyn cymorth.