Ein Act-ifyddwch

O ran gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eich sefydliad, rydym yn gwybod nad yw un maint yn addas i bawb. Dyna pam mae offeryn hyfforddi Act-ifyddwch wedi’i ddylunio i fod yn hyblyg ac i addasu er mwyn bodloni anghenion hyfforddi penodol eich sefydliad.

Fodd bynnag, mae yna rai meysydd yn y Ddeddf lle mae gan wahanol sefydliadau ddeilliannau tebyg y dymunant eu cyflawni—er enghraifft, meddwl am brosesau llesiant a chyllid, neu gefnogi staff i gydweithio ar draws sefydliadau. Dyma lle mae llwybrau Act-ifyddwch yn darparu llwybr byr i roi hwb i ddyluniad eich hyfforddiant.


Mae ein Llwybrau Act-ifyddwch yn rhaglenni hyfforddi sy’n defnyddio cyfuniad penodol o gardiau Act-ifyddwch i strwythuro sesiwn hyfforddi sydd wedi’i thargedu at gyflawni deilliant penodol.

Gan fod yr offeryn yn dal i gael ei ddatblygu, mae nifer y llwybrau hyn sydd gennym i’w rhannu â chi ychydig yn gyfyngedig i brofiad y profwyr cynnar hynny.

Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd y dudalen hon dros amser yn gartref i adnodd gwerthfawr o lwybrau Act-ifyddwyr a ddatblygwyd, a ddyluniwyd, ac a rannwyd gan gadw llesiant Cymru mewn cof. Os ydych wedi defnyddio’r gardiau Act-ifyddwch ac os oes gennych lwybr yr hoffech ei rannu â’r rhwydwaith, gallwch lawrlwytho’r templed hwn i roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn a wnaethoch ac pam.


Cyd-ddylunio Act-ifyddwch Gwersyll hyfforddi deuddydd


Gosod Amcanion Act-ifyddwch Gweithdy undydd wyneb yn wyneb


The Act-ivate tool has been developed by the Future Generations Commissioner to support public bodies and other interested organisations in the implementation of the Well-being of Future Generations Act. The Future Generations Commissioner is grateful to the support of Landed Futures CIC in their work to research and develop the tool.

Mae’r offeryn Act-ifyddwch wedi’i ddatblygu gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i gefnogi cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill sydd â diddordeb wrth weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddiolchgar am gefnogaeth Landed Futures CIC yn eu gwaith o ymchwilio a datblygu’r offeryn.

contactus@futuregenerations.wales

hello@landedfutures.org